Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 3 Gorffennaf 2019
Amser:
09.00 -
12.27
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5488
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Huw Irranca-Davies AC Mark Isherwood AC Caroline Jones AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
Hannah Blythyn AC, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Jo-anne Daniels, Llywodraeth Cymru Linda Davis, Llywodraeth Cymru Leighton Evans, Cyngor Sir Caerfyrddin Paula Livingstone, Cyngor Abertawe Sion Wynne, Cyngor Wrecsam Gaynor Toft, Cyngor Sir Ceredigion Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dewi Morgan, Cyngor Gwynedd Deb Smith, Torfaen Council |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Hannah Johnson (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Hannah Blythyn AC, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
· Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru
· Linda Davis, Pennaeth Trechu Tlodi a Chysylltiadau'r Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth Cymru
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am eglurder ar nifer o faterion.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Leighton Evans, Cyngor Sir Caerfyrddin
· Paula Livingstone, Cyngor Abertawe
· Sion Wynne, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
· Gaynor Toft, Cyngor Sir Ceredigion
5.2 Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y tystion i:
· Ddarparu data ar leoliadau eiddo gwag yn ardaloedd awdurdodau lleol ac a oes cysylltiad ag ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol; ac
· Ysgrifennu at y Pwyllgor gyda rhagor o wybodaeth am effeithiolrwydd y pwerau gorfodi sydd ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer ymdrin ag eiddo gwag.
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Lisa Haywood, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
· Dewi Morgan, Cyngor Gwynedd
· Deb Smith, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
7.1a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Mark Isherwood AC ynghylch y Gronfa Gymdeithasol ar gyfer taliadau angladd
7.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ynghylch y cais am ragor o wybodaeth yn dilyn y craffu blynyddol.
7.3 Nododd y Pwyllgor y dadansoddiad o'r arolwg o eiddo gwag.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 5 a 6.
9.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull ar gyfer y gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd yng Nghymru.